![]() |

Annwyl Liz,
15 Hydref 2024
Llongyfarchiadau ar eich penodiad a phob llwyddiant i chi yn y rôl bwysig hon.
Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Senedd Cymru yn cynnal ymchwiliad i'r bwlch cyflogaeth sy’n wynebu pobl anabl. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa gynnydd sydd wedi'i wneud, a beth arall y gellid ei wneud, i leihau a dileu rhwystrau i gyflogaeth y mae pobl anabl yn eu hwynebu.
Mae’r cylch gorchwyl llawn ar gyfer yr ymchwiliad i’w weld yn yr Atodiad. Er y byddwn ni’n canolbwyntio’n bennaf ar feysydd datganoledig sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, mae wedi dod yn fwyfwy amlwg y byddai’n fuddiol iawn i ni gael mewnbwn yr Adran Gwaith a Phensiynau wrth gyflawni’r gwaith hwn. Felly, byddem yn croesawu cael gwybod eich barn ar y pwyntiau perthnasol o'n cylch gorchwyl (hynny yw, y trydydd, y pumed a'r chweched pwynt bwled) a'r materion penodol yr ydym yn tynnu sylw atynt isod.
Awgrymodd yr Athro Debbie Foster, sef awdur adroddiad Drws ar Glo 2021, ynghyd â Grŵp Hawliau Pobl Anabl Llywodraeth Cymru, fod cysylltiad Hyderus o ran Anabledd â’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhoi enw gwael i’r cynllun hwnnw, oherwydd bod diffyg ffydd gan bobl anabl yn yr Adran.[1] Fel atebion posibl, awgrymodd yr Athro Foster y gellid gwahanu nod barcud neu gynllun cyflogwyr oddi wrth nawdd cymdeithasol a’i symud i bortffolio arall a/neu ddatblygu nod barcud ar gyfer Cymru.
§ Sut y byddech yn ymateb i bryderon yr Athro Foster bod cysylltiad y cynllun Hyderus o ran Anabledd â’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhoi enw gwael i’r cynllun?
§ Beth yw eich safbwynt ar yr awgrymiadau a ganlyn:
§ symud cyfrifoldeb am y cynllun Hyderus o ran Anabledd i bortffolio arall; a
§ datblygu nod barcud ar gyfer Cymru?
§ Beth yw safbwynt Llywodraeth y DU ar ddiwygio’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn y dyfodol?
§ Sut y bydd y Bil Hawliau Cyflogaeth arfaethedig yn mynd i’r afael ag anghenion pobl anabl ac yn helpu i leihau’r bwlch cyflogaeth anabledd?
Clywsom adolygiadau cymysg ynghylch y cymorth a gynigir i bobl anabl gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a phryderon sylweddol ynghylch hyfforddiant, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth staff y Ganolfan Waith. Mae’r adborth a gawsom hyd yma gan bobl sydd â phrofiad personol o hyn a gymerodd ran yn ein gwaith ymgysylltu wedi bod bron i gyd yn negyddol; dywedodd nifer o bobl anabl ei bod yn ymddangos nad yw rai o gynghorwyr y Ganolfan Waith wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol i allu cynghori'r rheini sydd am ddod o hyd i waith mewn modd priodol a sensitif.
Dyma a nododd cyfranogwr mewn grŵp ffocws yng Nghaerdydd:
“Mae’n fater o ddiffyg meddwl a diffyg gofal yn yr hyn maen nhw'n ei wneud. Daeth hyn i’r amlwg i mi pan ddywedodd aelod o staff y Ganolfan Waith wrthyf ‘mae’n rhaid ichi fynd am gyfweliad gorfodol. Byddi di’n colli dy arian os na fyddi di'n mynd am y cyfweliad hwn.’ Gofynnais, 'Beth yw’r swydd?'. Dywedwyd wrthyf mai gyrru ar gyfer Stage Coach oedd y swydd. Roeddwn i'n eistedd yno gyda chi tywys wrth fy ochr."[2]
§ Sut ydych chi'n ymateb i bryderon nad oes gan staff y Ganolfan Waith yr ymwybyddiaeth, y wybodaeth na’r hyfforddiant sydd eu hangen i roi cymorth priodol i bobl anabl gael gwaith?
§ Sut y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn sicrhau bod staff yn ymwybodol o, ac yn sensitif i, anghenion defnyddwyr gwasanaeth sy’n anabl?
§ Pa hyfforddiant penodol a ddarperir i staff y Ganolfan Waith a faint o staff sy’n manteisio arno? Sut yr eir ati i fonitro effeithiolrwydd yr hyfforddiant hwn?
Ar y sail y dylai bron pawb allu elwa ar yr ymdeimlad o urddas a ddaw yn sgil cael gwaith, pa ystyriaeth a roddwyd i ddarparu cymorth neu gymhellion ariannol i gyflogwyr da a allai fod â diddordeb mewn cyflogi pobl sydd ag anableddau sy’n cael trafferth cystadlu am swyddi ar y farchnad swyddi agored, er enghraifft, pobl ag amhariad gwybyddol a allai wneud rhai swyddi o dan oruchwyliaeth, i gynorthwyo â’r gost o oruchwylio swydd y person anabl. Er enghraifft, yn Sbaen mae sefydliadau lle y mae 70-90% o’r gweithlu yn anabl wedi'u heithrio rhag TAW, ac mae’r rhai sydd ar 90% neu fwy yn cael bonws ariannol. Yn y sector cyhoeddus, caiff 5% o'r holl swyddi eu neilltuo ar gyfer pobl anabl.
§ Sut y byddwch yn sicrhau y caiff gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau yn y maes hwn ei lywio gan dystiolaeth ac arfer gorau?
§ Pa ystyriaeth yr ydych chi wedi’i rhoi i fabwysiadu dulliau rhyngwladol, er enghraifft, y gefnogaeth y cyfeiriwyd ati yn Sbaen, ac archwilio a fyddent yn gweithio yn y DU?
Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymateb yn gadarnhaol i'n cais am wybodaeth. O ystyried yr amserlenni a gynlluniwyd ar gyfer cwblhau’r ymchwiliad, byddem yn gwerthfawrogi ymateb cyn gynted â phosibl ac erbyn 13 Tachwedd 2024 fan bellaf.
Diolch a chofion gorau,

Jenny Rathbone AS
Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Welsh
Parliament
ATODIAD A
Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad i anabledd a’r bwlch cyflogaeth fel a ganlyn:
§ Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni'r argymhellion a nodir yn adroddiad 'Drws ar Glo' a lleihau a dileu'r rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl sydd am gael mynediad at farchnad lafur Cymru. Pam mae wedi bod mor anodd gwneud cynnydd o ran lleihau’r bwlch cyflogaeth a chyflogau i bobl anabl.
§ Sut mae'r model cymdeithasol o anabledd yn cael ei ddefnyddio i danategu arferion cyflogaeth a recriwtio, a pha rwystrau sy'n parhau i fodoli ar draws y gymdeithas sy'n effeithio ar fynediad at waith (h.y. trafnidiaeth, agweddau).
§ Pa mor effeithiol y mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru (e.e. y rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl a phrentisiaethau) wedi bod o ran lleihau rhwystrau i gyflogaeth a lleihau'r bwlch cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl, gan gynnwys i ba raddau y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn ategu / dyblygu / tanseilio rhai Llywodraeth y DU.
§ A yw pobl anabl yn cael mynediad at brentisiaethau ac a oes angen unrhyw gymorth pellach i sicrhau bod cynlluniau'n gynhwysol.
§ Pa fesurau polisi pellach sydd eu hangen i gefnogi pobl anabl, pobl ifanc anabl a chyflogwyr i gynyddu cyfraddau cyfranogiad a'r hyn y gellir ei ddysgu o ardaloedd eraill.
§ Pa weithredoedd fyddai’n cefnogi'r rhai nad ydynt yn gallu gweithio ar hyn o bryd i gael mynediad at gyfleoedd gwirfoddol (a allai arwain at gyfleoedd gwaith yn y dyfodol).
[1] Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Cofnod y Trafodion, paragraff 21, 30 Medi 2024
[2] Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Crynodeb interim o’r gwaith ymgysylltu